Cadi Ha

Mae’r cyfle hwn i ddawnsio’n draddodiadol, i gyfeiliant offerynnau traddodiadol gan ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfle iddynt fyw a phrofi eu treftadaeth. Rydym ni yn Ysgol Rhos Helyg yn gobeithio y bydd y Cadi Ha yn parhau am flynyddoedd i ddod.”

”This opportunity to dance traditionally, to traditional instruments using the Welsh language is an opportunity to live and feel their heritage. We at Ysgol Rhos Helyg hope that the Cadi Ha continues for many years to come.”
— Leanne Thomas- Ysgol Rhos Helyg

Beth yw Cadi Ha?

Mae’r Cadi Ha yn draddodiad poblogaidd sydd wedi parhau ac esblygu dros genedlaethau. Mae’n draddodiad Morris Cymreig lle ceir dawnsio gwerin ar y strydoedd. Dywedwyd y byddai’r tîm gwreiddiol o bentref Bagillt yn cychwyn yn gynnar yn y bore o’r pentref ac yn dawnsio ar hyd y ffordd yn barod i ddawnsio yn Nhreffynnon am 3 o’r gloch y prynhawn. 

Mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau mwyngloddio Gorllewin Fflint (yn benodol o’r Flint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasan) yn gorymdeithio a dawnsio ar y cyntaf o Fai.

Diolch i Ieuan ap Siôn, canwr lleol, bu adfywiad yn y 1970au a’r 80au. Gan seilio’r ddawns ar atgofion ei dad a’i daid casglodd griw ynghyd i deithio bob mis Mai.

Pymtheng mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn sgwrs rhwng y diweddar Chris Bailey a rheolwr canol tref Treffynnon, lansiwyd Gŵyl Cadi Ha. Gweithiodd Chris Bailey gyda’r diweddar Geoff Jenkins, arweinydd Dawnswyr Delyn yn y Wyddgrug i sefydlu gŵyl flynyddol. Dathlwyd yr ŵyl hyd at 2019 ond, oherwydd Covid19, ni fu’n bosib cynnal yr ŵyl eto tan 2023.

Yn 2020 paentiodd cyngor tref Treffynnon furlun yn Nhreffynnon i amlygu arwyddocâd y traddodiad yn yr ardal. Mae pobl Treffynnon yn falch iawn o draddodiad y Cadi Ha ac mae Dawnswyr Delyn wedi sicrhau bod y traddodiad wedi parhau’n fyw yn y dref. Mae’n ffordd hyfryd o ddysgu’r plant am dreftadaeth yr ardal mewn ffordd llawn hwyl ac atyniadol.

Ni chynhaliwyd yr ŵyl yn 2020, 2021 na 2022 oherwydd pandemig Covid19 a’i effaith. Yn 2023 derbyniodd yr ŵyl gyllid gan WYTH, prosiect cysylltu a ffynnu Cyngor y Celfyddydau rhwng Menter Iaith Maldwyn a’r Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Tref Treffynnon i ailgychwyn yr ŵyl ar ôl y toriad o 3 blynedd. Yn 2024 parhaodd WYTH i gyllido’r ŵyl, ond nid oedd Cyngor dre Treffynnon mewn sefyllfa i gynnig cyllid. Sicrhawyd cyllid gan gronfa Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref Cyngor Sir y Fflint.

What is Cadi Ha?

The Cadi Ha is a much-loved living tradition that has continued and evolved with each new generation. It is a Welsh Morris Tradition that sees folk dancing in the street. The original team from Bagillt reportedly used to start from the village early in the morning and dance along the way ready to dance in Holywell at three o’clock in the afternoon.

There are over two centuries of records of men from the mining communities of west Flintshire (particularly from Flint, Bagillt, Holywell, Mostyn and Llanasa) processing and dancing on the first day of May.

Thanks to Ieuan ap Siôn, a local singer, there was a revival in the 1970 and 80s. Basing the dance on the memories of his father and grandfather he collected a crew together to travel every May.

Fifteen years later, following a conversation between the late Chris Bailey and the manager of Holywell town centre, the current Cadi Ha Festival was launched. Chris Bailey worked with the late Geoff Jenkins, leader of Dawnswyr Delyn in Mold to establish an annual festival. The festival was celebrated up until 2019 but due to Covid19 the festival was unable to take place again until 2023.

In 2020 Holywell Town council painted a mural on the walls in Holywell to highlight the significance of the tradition to the area. The people of Holywell are proud of the Cadi Ha tradition which Dawnswyr Delyn have ensure stays alive in the town. It is a wonderful way to teach children about the local heritage of the area in a fun and engaging way.

The festival was not held in 2020, 2021 or 2022 due to the COVID -19 pandemic and it’s impact. In 2023 the festival secured funding from Wyth, an Arts Council connect and flourish project between Menter Iaith Maldwyn and the Eisteddfod Genedlaethol and Holywell Town Council to restart the festival after the 3 year break. In 2024 Wyth continued to fund the festival, though Holywell Town Council were not in a position to be able. Funding was secured from Flintshire council’s Town Centre Activities and Events fund.

Gwyl Cadi Ha- Ffigyrau 2024

Cadi Ha Festival - 2024 Figures

  • Nifer fynychodd / Audience Attendance - 110

    Mynychodd 110 o bobl i wylio gŵyl Cadi Ha. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys cymysgedd o deuluoedd yn cefnogi’r plant oedd yn dawnsio, pobl a busnesau lleol a rhai oedd yn digwydd pasio.

    110 people attended to watch the Cadi Ha festival. This attendance was made up of a mixture of families supporting the children dancing, local people and local business owners and passers by.

  • Gwirfoddolwyr / Volunteer Attendance - 40

    Gwirfoddolodd dros 40 o bobl i helpu i wneud yr ŵyl yn llwyddiant. Roedd y rhain yn cynnwys y band, aelodau Dawnswyr Delyn ac athrawon ysgolion yn cefnogi eu disgyblion.

    Over 40 people volunteered their time to make the festival a success, this included the band, members of Dawnswyr Delyn and teachers from the schools who supported their pupils.

  • Disgyblion ysgol yn bresennol / Schools Attendance 45 o blant

    Roedd 5 ysgol ac un aelwyd yn bresennol gyda chyfanswm o 45 o blant yn cymryd rhan yn yr ŵyl.

    5 schools and one aelwyd attended with a total participation figure at the festival of 45 children.

  • Cyfanswm yn bresennol / Total Attendance - 205

Ysgolion 2024 Schools

Ysgol Y Foel, Cilcain

Cafodd Ysgol Y Foel 2 sesiwn gan yr artist dawns Angharad Harrop.

Ysgol Y Foel had two sessions from dance artist Angharad Harrop.

Cyfanswm y Cyfranogwyr/Total Participation

55

Ysgol Ty Fynnon

Cafodd Ysgol Tŷ Fynnon sesiynau gan Angharad Harrop a Meinir Siencyn.

Ysgol Ty Fynnon had sessions from Angharad Harrop and Meinir Siencyn.

Cyfanswm y Cyfranogwyr/Total Participation

18

Ysgol Croes Atti

Cafodd Ysgol Croes Atti sesiynau gan Meinir Siencyn.

Ysgol Croes Atti had sessions from Meinir Siencyn.

Cyfanswm y Cyfranogwyr/Total Participation

165

Ysgol Gwenffrwd

Cafodd Ysgol Gwenffrwd sesiynau gan Angharad Harrop a Meinir Siencyn.

Ysgol Gwenffrwd had sessions from Angharad Harrop and Meinir Siencyn.

Cyfanswm y Cyfranogwyr/Total Participation

70

Ysgol Rhos Helyg

Cafodd Ysgol Rhos Helyg sesiynau gan Meinir Siencyn

Ysgol Rhos Helyg had sessions from Meinir Siencyn.

Cyfanswm y Cyfranogwyr/Total Participation

32

Cyfanswm y Cyfranogwyr mewn Ysgolion

Total Participation in Schools

165

Adborth Atharwes

Teacher Feedback

Dyma ddyfyniad gan un o’r athrawon fu’n gweithio gyda Angharad a Meinir:

 “Diolch am barhau â’r traddodiad hyfryd hwn. Mae’n un sydd yn agos iawn at ein calonnau yma yn Ysgol Rhos Helyg. Roedd ein dirprwy bennaeth blaenorol yn rhan o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd yr ŵyl. Fel athrawes newydd gymhwyso rwy’n cofio gwrando arno yn sôn wrth y plant am ei atgofion o’r dathliadau fel plentyn ar y mynydd, yn mynd o ddrws i ddrws yn canu cân y Cadi Ha. Pan wnaeth ymddeol nifer o flynyddoedd yn ôl, fe wnes i addo i barhau gyda’r traddodiad a dyma fi yn fy ugeinfed flwyddyn yn Rhos Helyg, gyda dathliadau’r Cadi Ha wedi dod yn rhan o fy stori i yn yr ysgol hefyd. Bob blwyddyn mae grŵp newydd o blant yn dod i ymuno, yn dysgu dawnsfeydd sydd wedi bod yn rhan o hanes eu mynydd ers blynyddoedd lawer, maent yn dysgu canu cân sydd wedi bod yn teithio drwy’r gwanwyn ac yn ei chanu gyda mwynhad. Yn bwysicaf oll, maent wedi chwerthin a chreu atgofion hapus a gwneud cysylltiadau ag ysgolion eraill sydd wedi dod ynghyd i ddathlu’r elfen hon o’u cynefin. Eleni, fe wnaethom siarad am sut mae dawns yn ffordd wych o gadw’r meddwl yn hapus a chadarnhaol, yn ffordd o fod yn actif a hefyd yn fodd i fynegi eich hun. Mae’r cyfle hwn i ddawnsio’n draddodiadol, i gyfeiliant offerynnau traddodiadol gan ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfle iddynt fyw a phrofi eu treftadaeth. Rydym ni yn Ysgol Rhos Helyg yn gobeithio y bydd y Cadi Ha yn parhau am flynyddoedd i ddod.” - Leanne Thomas (Athrawes)

Here is a statment by one of the teachers who was working on the project with Angharad & Meinir:

“Thank you for continuing this wonderful tradition. It is one that is very close to our hearts in Ysgol Rhos Helyg. Our previous Deputy Head was a part of the original team that set up the festival. As a newly qualified teacher I watched him tell the children about his celebrations as a child on the mountain, visiting door to door singing the Cadi Ha song. When he retired some years ago, I made a promise to continue the tradition and this being the 20th year for me in Rhos Helyg, the Cadi Ha! has become a part of my story at the school too. Each year a new group of children come to join in, they learn dances that have been a part of their mountain’s history for many years, they learn to sing a song that has drifted along the spring time and they sing it with enjoyment. Most importantly they have laughed and made happy memories and connections with other schools, who have joined together to celebrate this aspect of their cynefin. This year we talked about how dance is a great way to keep a happy and positive mind, a way to be active and express yourself too. This opportunity to dance traditionally, to traditional instruments using the Welsh language is an opportunity to live and feel their heritage. We at Ysgol Rhos Helyg hope that the Cadi Ha continues for many years to come.” - Leanne Thomas (Teacher)

Previous
Previous

TwmpDaith

Next
Next

Sblash